Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"O wraig gall, pei deallud
Derfyn ar hyn o hud,
Ni chyflybwn, gwn ganclwyf,
Neb â thi. Anobaith wyf."
"Da o beth, diobeithiwr,
Yw dy freuddwyd, od wyd ŵr,
Y cŵn heb gêl a welud,
I'th law, pe gwypen iaith lud,
Dy helwyr da eu helynt,
Dy lateion ëon ynt,
A'r ewig wen, unbennes
A garut ti, hoen geirw tes.
A diau hwyl y daw hi
I'th nawdd, a Duw i'th noddi."


Y Daran.

MAE gair i mi o gariad
Gael is dail gwely o stâd,
A cherdd gan fronfraith a chog,
A merch wen ym Mrycheiniog,
Dan lwyn mewn dien lannerch,
A dail Mai rhwng dwylaw merch.
Mynnais yn dâl am anun
Gael bod yn gywely bun.
Myn Duw, pan oeddem ein dau
Lawenaf, ddyn ael winau,
Taraw a wnaeth, terwyn oedd,
Trwst taran tros y tiroedd,
A ffrydiaw croywlaw creulawn,
A phoeri mellt yn ffrom iawn.