Gwylltio'r forwyn, fwyn feinwen,
Gwasgu, a ffo, gwisg ei phen.
Ffynnu yn deg, ffown ni'n dau,
Ffoes hon a ffoais innau.
Durun fam fu'r daran fflwch,
Dug warwyfa'n digrifwch.
Trwch oedd, a thristwch i'w thrwyn!
Trwst mawr yn tristáu morwyn.
Twrf a glyw pob tyrfa glau,
Tarw cryg yn torri creigiau.
Twrf awyr âi trwy Fuellt,
Twpr a fâg taprau o fellt.
Tân aml â dwfr tew'n ymladd,
Tân o lid, dwfr tew'n ei ladd.
Clywais fry, ciliais o fraw,
Carliaid utgyrn y curlaw.
Mil fawr yn ymleferydd.
O gertweiniau'r sygnau sydd.
Braw a ddisgynnodd i'm bron,
Bwrw deri i'r wybr dirion.
Gwyllt yr af a'm gwallt ar ŵyr
Gan ruad gwn yr awyr.
Gwiddon goch yn gweiddi'n gau,
Gwrach hagr, dan guro'i chawgiau.
Rhygn germain rhyw gŵn gormes,
Rhugl groen yn rhoi glaw a gwres.
Torri cerwyni crinion
A barai Grist i'r wybr gron.
Canu trwmp o'r wybr gwmpas,
Curo glaw ar bob craig las.
Croglam yn dryllio creiglawr,
Crechwen o'r wybr felen fawr.