Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Trwy ei hun y trawai hwrdd,
Tebyg i ganu tabwrdd.
Nid gwaeth wrth fyned o'i gwâl,
Er bremain o'r wybr wamal,
Oni bai faint, mewn braint braw,
Ofn deuddyn a fai'n dyddiaw:
Breferad o'r wybr ferydd
A wnaeth i mi dorri dydd.
Y fun wen, ofni a wnai
Awyr arw, ban weryrai.
Drwg fu'r daran ymannos,
Dwyn dlif ac ofni dyn dlos.
Arw floeddaist, oerfel iddi,
Am ysgar meinwar â mi!


I'r Wylan.

YR wylan deg ar lanw dioer
Unlliw ag eiry neu wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fal haul, dyrnfol heli.
Ysgafn ar don eigion wyd,
Esgudfalch edn bysgodfwyd.
Yngo'r awn wrth yr angor,
Lawlaw â mi lili môr,
Llythr unwaith llathr ei annwyd,
Lleian ym mrig llanw môr wyd.
Cyweirglod bun, cei'r glod bell,
Cyrch ystum caer a chastell.
Edrych a welych, wylan,
Eigro liw ar y gaer lân.