Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DARAN.

DIEN: di-hen, ieuanc, hardd.ANUN: an-hun, colli cwsg.TERWYN: nerthol, gwyllt.FFO: ffoi.DARUN FFLAM: fflam ei phig.FFLWCH: eglur.SYGN: arferid dosbarthu llwybr llydan y nen, y llwybr a gymerai'r haul mewn blwyddyn, yn ddeuddeg sygn (signs of the zodiac)GWIDDON: gwrach, rheibes, dewines.RHYGN sŵn rhygnu.GERMAIN: oernad, udo.CERWYN: vat, twb darllaw mawr.GWARWYFA: chwaraefa.TWPR bref myharen?TAPRAU cannwyll gŵyr, taper.CARLIAID gweision.CERTWEINIAU: wagenni, certiau.BREMAIN: rhechain.BREFERAD: rhu.MERYDD gwlybyrog, dwl.YMANNOS: y nos o'r blaen.DLIF dylif, dilyw.

I'R WYLAN.

DIOER diau (neu cynnes).DYRNFOL maneg ddur.YNGO gerllaw.LLYTHR llythyr.UNWAITH: unwedd.LLATHR EI ANNWYD: disglair ei natur.LLEIAN: mynaches, nun.YSTUM: adeilad, ffurf; neu lethr (Llanystumdwy).EIGR mam Arthur.DYFUN: dymuno.SIPRYS: (lluniaidd fel) sipryswydden, cypress.DYN GIPRYS: merch ffraeth dafotrydd.DAN GOPR: dan wallt lliw'r copr.O GRED: o wledydd Cred.DIHENYDD: diwedd, dinistr.

Y NIWL.

TALGRWN: cyfan.GAN Y NOS: gyda'r nos.WYBR FANTELLAU: mantellau'r wybren.GOLWYBR: gorwel.CASUL: clog, mantell.CARTHEN llen, cynfas.GWRTHBAN: blanced, neu gwilt gwely.ELLYLLDAN: tân ellyll.ANNWN y byd arall, obry.ABID gwisg mynach, urddwisg, habit.ADARGOPWE: gwe pryf copyn.GLUD: yn glynu; clós, trwm.MIGNWERN: cors wleb.ANHY: nerfus, hwyrfrydig, ofnus.ANRHAITH: trysor, cariad-ferch.