Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DI-ARAUL: di-heulwen, llwyd.DIFERGLWYD: clwyd yn diferu.DIDDAWN: melltigaid.TUD: cartref, gwlad.GWASARN: gwellt a osodir dan anifeiliaid.HUDOL: dewin, swyngyfareddwr.CNU: gwlan.TRWSTANWAITH: tro trwstan, trwsgl, anlwcus.

Y GWYNT.

HYLAW: hy-(g)law.ERES: dieithr.DRUD: dyn o'i bwyll.ARO aros.EIRIACH: hepgor.Y BWA BACH: gŵr Morfudd.GWENWYN WEINI: yn gweini gwenwyn.NYTHOD DDWYN: ti leidr nythod, er nithio ohonot y dail, ni'th gyhudda neb.NI'TH ETAIL: ni'th atal.CAM GYMWYLL: ti sy'n cam-sôn am bethau.NITHYDD BLAENWYDD BLU: ti sy'n nithio plu y blaenwyddTREM: llygad.NOETHWAL: yn dy wâl noeth.RHAD: bendith.BLIN DORIAD BLAEN DÂR: yn torri yn flin flaen y deri.NOTER: rheolwr.SEIRNIAWG WYBR: un yn sarnu'r cymylau.EISINGRUG: crug eisin.SONGRY: cryf ei sŵn.MEHERIN MÔR: defaid y môr, sef y tonnau (cf. môrgesyg).HUAWDL AWDR HUDOL YDWYD: dewin hyawdl wyt.HEWR: heuwr.RHOD (RHYNGOD) A THŶ EI THAD: dull Cymraeg o ddweud "tua thu ei thad."SYGNAU: gweler "Y Daran."DEBRE tyred, dere.

EOS Y LLWYN BEDW

DIANEDWYDD: dedwydd.ARAIL: gofalu am, gwylio.DYDD: oed, pwyntment.IARLLES EURLLEN pendefiges euraid ei gwisg.EWYBR buan.EIDDIG yr enw a roddid ar ŵr y ferch y canai'r bardd iddi.CYFANHEDDRWYDD COED: coed yn fannau trigo, ac felly'n fannau llawenydd.WDWART: ceidwad coed, woodward.DYHUDDIANT: cysur.DIHUDDYGL: glân.CORBERTHI: perthi bychain.