Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PEDAIR NOFEL GYMRAEG.

E. Tegla Davies: GWR PEN Y BRYN

Gyda Deg o Ddarluniau. 230 td. Lliain, 3s. 6d.
Stori fyw, wreiddiol, gyffrous a hollol ar ei
phen ei hun."—Y Tyst.

"This is a novel to read and to keep."—South Wales News.

W. D. Owen: MADAM WEN

Rhamant dlos a chynhyrfus. Ail argraffiad. 188 td. Lliain, 3s. 6d.

"Y mae pob pennod o Madam Wen yn gymhleth
o antur, rhyfyg, gwrhydri a dirgelwch."—Y Llenor.

"Saif Madam Wen yn arwres o'r dechrau i'r
diwedd, a rhyw gyfaredd rhyfedd yn dilyn ei holl
rawd... Dyma stori fyw o'r dechrau i'r diwedd,
swynir ni gan symudiadau lledrith Madam Wen, a
denir ni ymlaen gan awydd am agoriad i ddirgelwch
hudol yr hanes. Dyma lyfr a ddarllenir gydag
afiaith."—MR. E. MORGAN HUMPHREYS yn Y Genedl
Gymreig.

T. Gwynn Jones: LONA

Lliain, 2s. 6d.

"Lona is almost unique in Welsh. It is a love
story, a romance, a perfectly constructed best seller
which ought to create a furore in Wales and go
through a dozen editions."—MR. SAUNDERS LEWIS.

"Darllenir Lona gydag awch o'r dechrau i'r
diwedd. Gwneuthum hynny fy hun. Stori rwydd,
yn llawn o ddigwyddiadau cyffrous a helyntion
i'ch cadw'n effro."—MR. E. MORGAN HUMPHREYS.

Kate Roberts: DEIAN A LOLI

Gyda Darluniau. Lliain Ystwyth, 2s. 6d—Byrddau, 3s.

"Un o'r llyfrau plant gorau a gafwyd ers blynyddoedd yw Deian a Loli. Tri swllt yw ei bris,
ac y mae hwnnw'n bris isel iawn am lyfr mor
wych."—Y Faner.

"Hanes swynol dau efell sydd yma. Y mae'r
awdures yn deall plant i'r dim, ac y mae'r stori yn
naturiol ac yn debyg i fywyd."—Y Llenor.

I'w cael trwy'r Llyfrwerthwyr ym mhobman.

HUGHES A'I FAB, WRECSAM.