RHAGAIR.
PAN ddeffrôdd meddwl Ewrop wedi gaeaf hir yr Oesoedd Tywyll, fe aeth ton o ganu dros y cyfandir i gyd—ton lawn o hoywder gwanwyn. Llais Dafydd ap Gwilym, a anwyd tua 1320 ac a fu farw tua 1380, oedd llais pereiddiaf Cymru yn y gytgan delynegol, ryfeddol honno.
Cyn gynted ag y dechreuodd Ewrop lefaru, llefarodd lawenydd ei chalon, nid ei chredo. "Ymaith â'r traddodiadau mynachaidd a'u culni," meddai'r beirdd a'r gwŷr wrth gelf, a throi am ysbrydiaeth newydd at fywyd a serch.
Gwawriodd oes y trwbadŵr ("darganfyddwr" neu grewr cerdd); oes y minnesinger ("canwr serch"); a'r glêr, neu'r ysgolheigion crwydrad. Canu mawl rhianedd prydferth a lleianod eiddil a wnai'r trwbadwriaid, a cherddorion yn cyfeilio iddynt ar fandolîn neu ffliwt. Gogoneddant serch llawen—serch at ferched, gan amlaf, a'r rheini'n fynych yn wragedd dynion eraill. Chwarddent am ben yr uffern dân a fygythiai'r Eglwys yn gosb arnynt am y fath "bechodau."
Yn neheudir Ffrainc, yn nhalaith Profens, sef y tir nesaf at Sbaen, lle y ffynnai diwylliant mirain yr Arab—yno y cododd cân y trwbadŵr gyntaf. Afraid holi, felly, o ba le y daeth y cynhyrfiad. Fe ddug y trwbadŵr i Ewrop felys naws barddoniaeth yr Arab, fel chwa gynnes o diroedd y De. Yr oedd y rhan hon o Ffrainc yn llawn heresi "wrth—Gristnogol"—heresi y ceisiodd y Pab Innocent III ei boddi yng ngwaed