miloedd lawer o bobl. Trwy gydol y ddeuddegfed ganrif, ac ymlaen at 1300, dal ati i herio'r Eglwys a'i chenhadon yr oedd Profens, ac yr oedd hi'n wenfflam yr un pryd gan gân y trwbadŵr.
Fe helpwyd yr ymryddhau yn Ewrop, fe helpwyd y diwylliant newydd, gan dwf trefi rhyddion a masnach, gan y trafaelio a barodd y Crwsadau, a chan y chwedlau am y Brenin Arthur a ddygesid i Ffrainc gan y Cymry a aeth i Lydaw. Fe laddwyd y mudiad trwy i'r Babaeth fanteisio ar gynhennau brenhinoedd a chreu iddi ei hun awdurdod mwy ofnadwy nag erioed—yr Incwisisiwn.
Fe dducpwyd cân y trwbadwriaid i Gymru gan yr ysgolheigion crwydrad—y glêr—a chan y Normaniaid. I'r De y daeth. Y mae'r tinc dilys yng nghân Dafydd ap Gwilym. Y mae'n canu serch hoyw ac yn gwatwar yr offeiriaid. Iddo ef, y byd hwn ydyw gwlad yr addewid, ac nid cywir mo datguddiad yr Eglwys ar y byd. Os rhoes Duw reddfau neilltuol ynom, rhaid ei fod Ef ei Hun yn gyson â'r greddfau hynny:
Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion;
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Hefyd, yn lle cadw at hen ddulliau iaith anghynefin, fel yr oedd yn arfer gan y beirdd, y mae Dafydd yn canu yn iaith bob dydd pobl ddiwylliedig ei oes. Dafydd ddechreuodd wneud yr iaith Gymraeg gyffredin a geir gennym ni heddiw yn iaith lenyddol.