Y mae ffansi ac egni a nwyf anghyffredin yn ei gywyddau natur. Sylwa'n graff. Gŵyr arferion anifeiliaid. Trinia goed, dail a blodau fel bodau byw, gyda theimladau dynol (ni cheir hyn ym. marddoniaeth Lloegr cyn Henry Vaughan yn y 17 ganrif). Lle y mae adar, yno i Ddafydd y mae "cyfanheddrwydd."
Dafydd oedd tad llenyddol y ddwy ganrif a'i dilynodd. Ef a greodd y mesur cywydd—cyfres of gyplau o linellau saith sillaf, y naill yn gorffen ag acen drom a'r llall ag acen ysgafn, a'r ddwy'n odli,— ac fe yrrodd hwn y mesurau eraill i'r cysgod. Ond, er bod weithiau megis ar gyfyng gyngor, 'ymwrthododd Dafydd ddim â'r gynghanedd fel yr ymwrthododd Chaucer, ychydig yn ddiweddarach, â'r mesurau Anglo—Saxon.
Y mae arddull Dafydd weithiau'n dynn iawn, fel pe bwriedid ambell gywydd i'w adrodd neu i'w ganu, gydag ysgogiadau wyneb a chorff a goslef llais i wneud y meddwl yn eglur. Sylwer hefyd ar ei allu anghyffredin i greu geiriau cyfansodd, megis "eos gefnllwyd ysgafnllefn," "esgudfalch edn. bysgodfwyd."
Credir mai ym Mro Gynin, Llanbadarn, Sir Aberteifi, y ganwyd Dafydd, er i rai beirdd ei alw yn "eos Dyfed " a "bardd glan Teifi." Ifor Hael, o Faesaleg, oedd yn ei flodau tua 1345, oedd ei brif noddwr. Yn ôl un traddodiad, yn Nhal-y-llychau y bu Dafydd farw. Dywed Gruffydd Gryg iddo gael ei gladdu dan ywen "ger mur Ystrad Fflur a'i phlas."