Tudalen:Dagrau hiraeth - neu, alareb goffadwriaethol, lle y gwneir coffhad am dros ddau cant a deg-ar-hugain o weinidogion yr efengyl, perthynol i'r gwahanol enwadau crefyddol yn mhlith y Cymry (IA wg35-5-244).pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ble mae Breese o dre Caerfyrddin,
Hughes, Trelech, aeth ffwrdd mor sydyn,
Pryse, Cwmllynfell, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae David Jones, Cydweli,
A John Jones, gynt o Llanedi,
Jones, Glynarthen, ble mac hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Phillips, Aberteifi,
William Morris o Llanelli,
Daniel Thomas, Penrhiwgaled,
Joseph Rees, Pontrhydfendigaid?

Ble mae Jones o Ffaldy brenin,
A John Davies o Cilcenin,
Jones, Crugbar, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Griffiths, Horeb, hefyd,
Ble mae Daniel Jones, Llanllechid,
Griffiths, Hawen, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Jenkins o Blaencefen,
Mills a Davies, gynt o Llundain,
Davies, Nerquis, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble John Thomas, Aberteifi,
William Williams wedi hyny,
Robert Roberts, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Richards fwyn o Llechryd,
Cyfaill cywir, dawnus hefyd,
Thomas John, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.