Tudalen:Dagrau hiraeth - neu, alareb goffadwriaethol, lle y gwneir coffhad am dros ddau cant a deg-ar-hugain o weinidogion yr efengyl, perthynol i'r gwahanol enwadau crefyddol yn mhlith y Cymry (IA wg35-5-244).pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn Cilgeran nid yw'n aros
William Jones nac Abel Thomas,
Eben Bowen, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae'r Doctor Phillips yntau,
Fu'n areithio dros y Beiblau,
Rhys ei frawd, a'r Jonah hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Robert Thomas o Llidiardau,
Griffith Williams o Talsarnau,
Lewis Morris nerthol hwnw,
Sy'n y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae William Morris, Rhuddlan,
Thomas Davies, Llanwyddelan,
Robert Davies ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Robert Griffith o Dolgellau,
Jones, Tremadog, ble mae yntau,
James Hughes, Lleyn, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw,

Ble mae Edwards, gynt o'r Berthen,
Jones, ac Edwards o Llangollen,
Thomas, Pisgah, ble mae hwnw?
Erbyn heddyw gyda'r meirw.

Ble mae Griffith Hughes o Edeyrn,
A John Hughes gerllaw Gwyddelwern,
Jones o Wrexham, lle mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Ebenezer Davies,
Williams, Talwrn, gwron grymus,
David Elias, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.