David Owen o Penmorfa,
David Rowlands, gynt o'r Bala,
Richard Jones, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Robert Evans, Aberteifi,
Robert Williams, Aberdyfi,
A James Davies, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mac Charles, gynt o Drefecca,
Ble mae Parry wych o'r Bala,
Lewis Jones, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae Williams, o Llandrillo.
A Ben Thomas o Llandeilo,
Ogwen Jones, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble Williams, Aberhonddu,
A Job Thomas, gyda hyny,
William Havard, hynod hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae Walters, Ystradgynlâs,
Gwr tra medrus mewn cymdeithas,
Edward Davies, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mac William Davies, Rhymni,
John Bywater wedi hyny,
Islwyn Fardd, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae Edwards, Pwllcenawon,
Jones o'r Borth, fy hen gyfeillion,
James o'r Graig, pa le mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Tudalen:Dagrau hiraeth - neu, alareb goffadwriaethol, lle y gwneir coffhad am dros ddau cant a deg-ar-hugain o weinidogion yr efengyl, perthynol i'r gwahanol enwadau crefyddol yn mhlith y Cymry (IA wg35-5-244).pdf/8
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon