gyntaf i'w hysbysu nad oedd hi'n hollol yn yr un safle â phlant eraill yr ardal. Nid oedd iddi dad a mam.
Ond beth mewn difrif a barodd iddi gofio am fam Meri Anna? Y ddynes annifyr honno a welai fai ar blant pawb, a byth yn gweld bai ar "Meri Anna bach," chwedl hithau.
Am funud, daeth rhyw chwerthin drosti ynghanol ei phrudd-der, wrth gofio fel y byddai'r mân hogiau yn tynnu gwallt Meri Anna,a lluchio cerrig ati er mwyn pryfocio'r fam wirion. Hithau â'i gwallt am ben ei dannedd yn eu bygwth â'i dyrnau i fyny.
Pam yr oedd yn rhaid i ryw fanion fel hyn ddyfod yn ôl iddi'n awr? Nid oedd dim cysur i'w ddisgwyl o gofio mam Meri Anna. Petasai Anti Lora'n fyw, buasai'n dweud ei bod yn rhoi lle i adar duon yn ei chalon, ac yn ei chynghori i'w shiwio ymaith.
Anodd oedd eu hel i ffwrdd pan ddeuent ar eu tro. Rhaid oedd mynd am dro yn eu cwmni ar hyd yr hen lwybrau.
Cofiai hefyd am y drafferth a gawsai i gael gan Fodryb Lora, ymhen blynyddoedd wedyn, roi iddi ychydig o hanes ei dyfodiad i'r byd. Yr ychydig a fedrodd gasglu ydoedd fod rhyw wraig o Gymraes a gartrefai yn Llundain wedi dod â hi i'r Tŷ Hen i'w magu dros rywrai eraill. Yr oedd y cwbl yn ddirgelwch i'r wraig honno yn ogystal ag i Fodryb Lora.
Felly, y cwbl a gafodd yr eneth ei wybod oedd: