dafn o waed i Fodryb Lora. Nid y fodryb fwyn a ddadlennodd hynny iddi. "Nage!" meddai hi gyda phwyslais wrthi ei hun. Cofiai'n rhy dda am fam Meri Anna, y drymblen fusneslyd honno, a chofiai fel y rhedodd adref i'r Tŷ Hen-rhaid nad oedd hi ond prin saith mlwydd oed-a gofyn: "Ydw i ddim yn perthyn i chi, Anti Lora? "Pam 'rwyt ti'n gofyn peth felna? "Mam Meri Anna ddeudodd wrtha i 'rŵan, nad ydech chi ddim yn Anti go-iawn imi." "Wel, a glywsoch chi'r fath beth erioed!" oedd yr ateb.
Cofiai fel y ceisiodd ei modryb chwerthin am ben y peth gan ddweud nad oedd eisiau i blant bach siarad am bethau fel-na; ac mai dysgu hel straeon oedd hynyna. "Hen lolan yw mam Meri Anna," meddai.
Anodd ar y pryd oedd ei throi hi draw. Agorwyd ei llygaid ar gwestiwn a gododd ei chwilfrydedd. Yr oedd Meri Anna wedi dweud hefyd na fu ganddi hi erioed dad na mam. Methai ddeall sut na chafodd hi dad a mam fel plant eraill. Daliai i holi a stilio nes gyrru Modryb Lora i godi ei llais a dweud wrthi am fynd allan i chwarae a bod yn hogan dda.
Daethai'r digwyddiad yna mor fyw i'w chof fel y teimlodd ar y munud hyfrydwch y plentyndod diniwed yn llifo drwy'i gwythiennau wrth lamu allan dros garreg y drws i chwarae eilwaith gyda Meri Anna a'r plant eraill, ac afal melys yn ei llaw.
Ie, y digwyddiad hwnnw oedd y garreg goffa