Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Buasai'n dda ganddi petai wedi medru meistroli ei thymer efo Derwyn gynnau ar lwybr y ddôl. Ceisiai ddyfalu sut y teimlai ef erbyn hyn tybed. Rhyfedd na buasai wedi ei hateb ryw ffordd neu gilydd. Buasai llawer hogyn wedi rhedeg ar ei hôl ac ymbilio arni wrando arno'n egluro ei feddwl yn iawn iddi, a gofyn am faddeuant os oedd wedi ei brifo. Ond ni wnaeth Derwyn mo hynny. Petai wedi ei hateb rywsut yn lle sefyll fel polyn—neu'n hytrach fel delw fud, a'i wallt du wedi ei frwsio'n ôl yn llyfn-loyw o'i dalcen, a'i lygaid treiddiol yn syllu arni—ie, heb ddweud yr un gair. Penderfynodd nad oedd o'n hitio botwm corn ynddi, wedi'r cwbl. Os bu ef yn hoff ohoni fel y cafodd le i gredu y bu, tebyg ei fod yn ei chasau erbyn hyn. Rhaid addef bod ddygiad mud Derwyn wedi rhoddi halen ar friw.

Tra'r oedd hi'n anhapus fel hyn, dechreuodd bensynnu. Cofiai amdani ei hun un tro yn y Plaza, gyda Beti ac Agnes. Pymtheng mlwydd oed oedd hi'r pryd hynny. Yr oedd yno un darlun y noson honno a'i hatgofiodd mai un o gyfrinachau cymdeithas oedd ei bodolaeth hi ei hun yn y byd, na wyddai neb o b'le y daethai, a phwy oedd ei rhieni.

Mae'n wir na fu ganddi le i achwyn ar honno a fu'n actio fel mam iddi am un mlynedd ar bymtheg. Modryb Lora, Tŷ Hen, ydoedd honno; a daeth pang o hiraeth drosti am yr hen ferch addfwyn a'i magodd.

Ond wedi'r cwbl, nid oedd hi'n perthyn yr un