danu am dipyn. "O'r gorau. Popeth yn iawn," meddai wrtho'i hun. Yr oedd ef mor annibynnol ei ysbryd â hithau. Ni fynnai ef mo Beti. Yr oedd ganddo farn o'i eiddo'i hun, a medrai ddewis drosto'i hun. Aeth yn ei flaen yn hamddenol ar hyd y llwybr heb edrych yn ei ôl. Safodd yn sydyn drocon yn ei synfyfyrdod. A thoc, wedi sefyll a thanio'r ail sigaret neu'r drydedd, tynnodd hi am funud o'i enau, a chwarddodd ryw chwerthiniad cwta, ac meddai: "Myn diawch, mae merched yn bethau rhyfedd!"
*****
Yr oedd hi wedi troi hanner nos ers meityn, ond daliai Alina i eistedd wrth ffenestr ei llofft fechan yn synfyfyrio yn lle mynd i'w gwely i gysgu fel y dylai.
Nid oedd angen cannwyll arni, ac nid oedd eisiau tynnu'r llenni duon i lawr. Yr oedd y lleuad yn llawn, a'r awyr o'r glas dyfnaf a welsai hi erioed; a phefriai rhyw fil-mil o sêr mân o'r ehangder tawel.
Disgleiriai toeau'r tai islaw, ac yr oedd ffenestri cefn y stryd gyferbyn fel rhyw res o ysbrydion yn llygadrythu i'r un man. Ar y dde iddi ymestynnai mynyddoedd o liw'r fagddu am filltiroedd fel rhyw warchae uchel, godidog o gylch yr hen bentref.
Teimlai'r eneth rywfodd yn brudd er ei gwaethaf; ac nid rhyfedd ymhen yrhawg ydoedd i ryw ochenaid ddianc o'i mynwes a disgyn i ddiddymdra'r nos olau fel darn o blwm.