"Dim peryg'!" meddai'r llall. "Hel rags oeddgwaith hwnnw, ac mi fedrwn i ddweud chwaneg, ond waeth heb â dechrau. 'Ddown i byth i ben.
Ie'n sicr, mam Beti a yrrodd Alina oddi ar ei hechel y diwrnod hwn. Cawsai ei gwahodd i Rock View i de lawer tro o'r blaen ar ei hanner diwrnod o'r siop; ond ni fedrai gofio am un o'r troeon hynny na fyddai wrth droi oddi yno, wedi cael rhyw air neu gilydd i'w brifo mewn ffordd glên gan fam Beti, ei ffrind. Methai'n glir â deall Mrs Owen, Rock View.
Ac yn anffodus, fel petai rhywbeth yn mynnu bod i'w phoeni ymhellach, wrth fynd am dro dros lwybr y ddôl gyda'r nos, digwyddodd Derwyn ar ryw siarad sôn y dylai hi geisio cael gwybod pwy oedd ei rhieni. Troes hithau arno fel mellten, a dywedyd ei bod hi'n berffaith hapus heb rieni na pherthnasau o fath yn y byd i'w phoeni, ac y gwnai hi'r tro'n gampus heb ei gwmni yntau hefyd. Yn fyrbwyll iawn, dywedodd wrtho os oedd arno eisiau merch â rhieni ganddi, a theuluoedd ac arian a phob rhinwedd yn perthyn iddynt, am iddo fynnu cwmni Beti Rock View; a throes ar ei sawdl oddi wrtho ar hynyna.
Cyn gynted ag y llithrodd y geiriau olaf yna dros ei gwefusau, buasai'n medru brathu ei thafod am fod mor ffôl. Ond yr oedd yn rhy hwyr. Cyflymodd ymlaen tuag adref â'i phen i fyny.
Safodd Derwyn yn ei unfan fel dyn wedi ei syfr-