Dyna sŵn drwg y seiren unwaith eto yn rhoi tro cas yng nghalonnau'r tair gyda'i gilydd, a neidiodd Twm, y gath, ar lin Alina. Rhybudd o waredigaeth ydoedd y tro hwn, a diolchwyd fod un perygl arall wedi mynd heibio heb eu cyffwrdd hwy, pwy bynnag arall a fwrdrwyd neu a oedd ar gael eu niweidio.
Toc, clywid clep drws y tŷ nesaf yn cau, a deal!odd Leusa Huws fod ei phriod yntau wedi cyrraedd adref yn ddiogel o rywle. Brysiodd i'w thŷ ar ei ôl, a rhyw londer ym myw ei llygaid, ac yn sŵn ei throed.
"Wel,.yn wir, mi fydd cwpaned o de yn reit dda 'rŵan," meddai Sera Defis. Ac wedi eistedd i lawr i swpera, dywedodd Alina yn blwmp ac yn blaen, ei bod wedi digio wrth Derwyn. Pan holai'r llall am beth y digiodd, yr ateb oedd:
"Am ddim byd, am a wn i."
Yr oedd wedi penderfynu mai fel yna yr oedd hi orau. Yr oedd mam Beti wedi ei gyrru i ryw fŵd anhapus y pnawn efo'i brolio a'i sôn am ei theulu, ac am ryw hynafiaid, a phawb ohonynt yn "dda allan" ac yn y blaen.
Poenai gwraig Rock View yn arw wrth y bwrdd te am na buasai ganddi hithau, Alina, deulu yn rhywle. Ystyriai ei bod fel pelican yn yr anialwch.
"Ac nid oes dim casach gen i na rhyw sŵn tosturiol o'r fath," meddai'r eneth.
"Soniodd hi rywbeth wrthych am Siôn Rogo—hen ewyrth iddi o ochr ei mam?