Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drist am y cartrefi'n cael eu chwalu'n dipiau mân, a channoedd o gyrff dan y malurion; ac fel yr oedd rhyw ddyn wedi gweld pen cyrliog plentyn bach a rowliodd i'r gwter. Ni fedrai'r dyn hwnnw anghofio'r peth tra byddai byw, medden' hw'.

Ac i beth mewn difrif yr oedd peth fel yna'n dda, oedd eu prif gwestiwn.

"Nid oes ond un farn amdani hi, ferched bach," ebr Sera Defis, "mae hi'n uffern ar yr hen ddaear 'ma o'r diwedd."

Ac i gyd o achos un dyn!" ebr Leusa Huws. "Un dyn sy'n cael y bai," ebr Alina. "Ond y mae yna lawer o ddynion pwysig a chyfrifol yn y bwti o'r tu ôl i Hitler, medden' hw'."

"Felly y bydd y dyn tŷ pella' 'na yn taeru efo mi o hyd. A wyddoch chi beth ddeudodd o neithiwr ddwytha? Na fyddai hi ddim gwaeth arno' ni petai Hitler yn ennill. Mae'r dyn fel petai o'n falch o weld y bwystfil yna'n ennill tiroedd. Mae'n hen bryd cael diwedd ar lywodraethwyr drwg Prydain Fawr, medde fo."

Barnai Alina mai ein lle ni fel pobl Lloegr a Chymru ydoedd ymorol am ddynion gwell i'n llywodraethu. Peth cachgiaidd ynom, a dweud y lleiaf, ydoedd disgwyl i greadur gwallgof ddod i'n gwlad i wneud y gwaith y medrem ni ein hunain ei wneud yn well, a hynny heb y lladd a'r dinistrio direswm. "O! Yr hen ddiafol sy gryfaf heddiw, Alina fach," ebr Sera Defis.