iau am gyhyd o amser. Ond rhaid oedd ufuddhau i fŵd y foment.
Dyna hi ei hôl eto yn eneth bymtheg oed; ac yn edrych ar y lluniau-byw-llafar yn y Plaza efo Agnes a Beti; a dacw'r wraig honno a welodd ar ei phen ei hun yn un o ystafelloedd gwych ei phlas yn ymddangos. Rhydd y llyfr a ddarllenai o'i llaw ac â at y piano. Tery i ganu rhyw eiriau prudd-felys sy'n rhoi ychydig o gyfrinach ei chalon.
Yn y cefndir, mewn congl, daw darlun arall i'r golwg sy'n ddrych o feddwl y wraig. Gwelir parc preifat, coediog, a dynes ifanc hardd mewn du, a fêl yn gorchuddio ei hwyneb, yn estyn baban wedi ei lapio mewn siôl wen i ofal dynes arall. Yna diflanna'r naill a'r llall o'r golwg i'w ffyrdd eu hunain drwy'r coed.
Cilia'r parc coediog, a gwelir llong yn cychwyn o borthladd allan i'r môr, a'r ddynes hardd mewn dillad du ymhlith y teithwyr ar ei bwrdd . . .
Cnoi melysion eu gorau glas yr oedd Agnes a Beti drwy gydol y llun arbennig hwnnw. Hithau, Alina, wedi anghofio bod ganddi hi ei hun felysion yn ei phoced. Yr oedd hi wedi llyncu'r syniad diniwed mai iddi hi yn arbennig oedd y gân, yn enwedig bob tro y doi'r geiriau:
Dy lais a glywaf fyth ar donau'r lli,
Dy lais a glywaf yn galw arnaf i.
Yr oedd llygaid mawr, prydferth y wraig yn syllu'n union arni hi, Alina, wrth ganu'r geiriau hyn.