Ymddengys bod cydwybod y wraig wedi cadw'n effro yng nghanol ei chyfoeth ar hyd y blynyddoedd, a'i bod yn dychmygu clywed llais ei phlentyn anghyfreithlon yn dal i alw amdani o rywle-rywle ar draws y byd.
"Beth ac ymsyniai'r eneth un ar hugain oed wrth ei ffenestr yn union fel yr ymsyniodd gynt yn bymtheg oed-beth petai ei mam hithau yn digwydd bod yn gyfoethog fel honno? Ac yn byw mewn plas! Nid hwyrach bod cydwybod ei mam hithau yn ei phoeni weithiau am ddyfod â hi i'r byd a'i gadael mor ddi-feind at drugaredd dieithriaid. Ond efallai na phoenodd hi am ennyd awr ar ei chorn. Hwyrach, wir, mai gwraig hunanol, ddrwg oedd ei mam!
"Na, ni fedrai ddygymod â'r syniad yna, chwaith, am ei mam, p'le bynnag yr oedd hi. Ac O! na châi hi wybod rhywbeth amdani! Tybed a fedrai meddwl plentyn gyffwrdd ag enaid y fam nas gwelodd erioed, os oedd hi ar dir y rhai byw yn rhywle? Pwy a ŵyr?
le, a phwy a ŵyr nad oedd hi'n meddwl am ei phlentyn y munud hwn. Hwyrach ei bod yn methu cysgu yn yr oriau hynny, ac mai hi, ei phlentyn, a oedd yn ei rhwystro.
Yr oedd y barrug allan yn drwm ers oriau, a theimlodd Alina o'r diwedd fod ei anadl oer yn ymlapio amdani drwy'r ffenestr nes peri cryndod drwy. ei holl gorff a'i gyrru i'w gwely i lechu dan y dillad.