Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dydd, a thorri ar heddwch y gwragedd gyda gwaith. y tŷ. Addefai un wraig ddarfod i'r "hen seiren gebyst 'na" ddod i'w dychryn a hithau cyn ddued â'r simnai yn rhwbio'r grat. Aeth ar ei hunion i olchi tipyn ar ei hwyneb rhag ofn i rywbeth ddigwydd, ac i bobl ei chael wedi ei lladd â'i hwyneb yn fudr. Ond y tro hwnnw, wedi'r drafferth o ymolchi a bustachu'n bryderus, cafodd wybod ymhen yrhawg mai ymarferiad ydoedd stŵr y gloch, a bu stori'r ymoichi yn destun hwyl i'r stryd gyfan.

Cynefinwyd hefyd â sŵn yr awyrblanau, ac â hanes trychinebau ar faes y gwaed, ac yn ninasoedd Lloegr a Chymru. Aethai popeth ymlaen yn yr Hendre boblog fel arfer er gwaethaf y ffaith bod y dynion ifainc, a llawer tad yn eu plith, yn gorfod ymateb i alwad y gad; ac ymhlith y rhai hyn fe aeth Derwyn yntau.

Synnai pawb o weled bod Derwyn wedi mynd, ac yntau'n heddychwr o argyhoeddiad amlwg. Dywedai Leusa Huws ei fod wedi siarad yn dda ofnadwy yn y caban cinio, medde nhw, wrth ffarwelio â'i gydweithwyr yn y chwarel. Diolchai am eu cynghorion a'u dymuniadau da.

Sicrhai ei gydweithwyr ei fod wedi penderfynu mynd, nid am ei fod yn credu mewn rhyfel, ond am iddo weld yn gwbl glir nad oedd dewis arall yn bosibl iddo dan yr amgylchiadau enbydus yr oedd ein byd ynddo.

"Nid oes eisiau ein hatgofio," meddai, "ar bwy