y mae'r bai am y rhyfel hwn, fel am bob rhyfel o'r blaen. Ond nid amser i siarad yw hi heddiw. Rhaid i rywrai aberthu unwaith eto."
Aethai deufis a rhagor heibio oddi ar noson y ffrwgwd rhwng Alina ag yntau ar lwybr y ddôl. Pan glywodd hi gan Leusa Huws ei fod wedi mynd i'r rhyfel, cafodd gryn ysgydwad, a theimlodd ryw fath o edifeirwch yn ei chalon. Gofidiai na fuasai wedi cael ysgwyd llaw ag ef a dymuno'n dda iddo. Ond yr oedd wedi mynd cyn iddi gael cyfle i wybod am ei fwriad.
Sut y medrai hi gael ei gyfeiriad oedd ei phroblem yn awr. Ni fedrai ddygymod â'r meddwl ei fod ef wedi ymadael am y fyddin, ac yn coleddu'r syniad, efallai, fod dicter yn ei chalon hi tuag ato. Sut y medrai gael dangos iddo ei bod yn ffrind cywir iddo drwy bopeth?
Cafodd y drychfeddwl un dydd Iau y mynnai wneud teisen iddo. Cai y pnawn yn rhydd at y gwaith. Yr oedd mamau a chwiorydd y bechgyn yn cynilo'r wyau a'r cyrains a'r resins beunydd er mwyn cael gyrru teisennau iddynt. A phan gyrhaeddodd y tŷ i'w chinio, a dweud ei bwriad wrth Sera Defis, cafodd bob help gyda gwneud y deisen. Yr oedd y popty'n boeth eisoes, a chadwyd y gwres i fyny ynddo; ac wrth lwc yr oedd gan wraig y tŷ ddigon o fargarîn y gallai ei hepgor.
Dyna ddifyr i Alina oedd y gwaith anniben hwnnw o gymysgu'r menyn a'r siwgwr nes cael y