Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cynnwys wedi eu troi fel hufen. Braf oedd eistedd yng ngwres y tân i wneud hynny. Wedyn torri'r wyau un ac un a'u curo am allan o hydion. Teimlai'n hapus, a chanai wrth y gwaith bob yn ail â sgwrsio efo Sera Defis.

Ni fu gwell lwc erioed ar grasu teisen," ydoedd barn y ddwy. Cafwyd cyfeiriad Derwyn—rhywle yn Lloegr. I ganlyn y deisen yr oedd darn bach o bapur gwyn yn cludo "Cofion a dymuniadau gorau, Alina."

Aeth wythnos ar ôl wythnos heibio. Mis a dau a rhagor. Ofer fu'r disgwyl am air oddi wrth Derwyn. Penderfynodd Alina mai dyna ei ffordd ef o ddangos nad oedd yn dymuno am ragor o'i chyfeillgarwch. Wel, popeth yn iawn, os fel yna y teimlai ef. Nid oedd ei theimladau da hi tuag ato ef ronyn yn llai.

Ychydig a wyddai'r eneth nad aeth y deisen' yr un cam pellach na Lerpwl, ac mai rhyw weilch ifainc digydwybod a fu'n gwledda arni'n slei gyda gwirod a chariadau.

*****

Poenid cryn dipyn ar bawb, yn enwedig ar drigolion tai cyffredin yr Hendre Gaerog, parthed y galw am le i'r noddedigion. Yr oedd pob tŷ bron wedi gorfod cymryd un neu ddau, ac weithiau ragor, o blant. Ni fedrent orfodi Sera Defis i gymryd neb