Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"A dyna beth rhyfedd arall." ebr Alina, "i'r ddynes 'na daro ar lety yn y drws nesaf i Rock View o holl lefydd y byd!

"Dyna'r mei ledi, Mrs Owen, yn cael gweld o'r diwedd fod gennych fam, a chael gweld hefyd ei bod yn ddynes dda allan. Rhaid ei bod yn bur gyfoethog cyn y medrai gael y dillad yna amdani. Faint a gostiodd y gôt ffyr yna iddi, tybed? Mi gostiodd honna gryn geiniog a dimai!"

"Mae hyn yn sicr. Mi fydd Mrs Owen mewn mwy o fusnes nag erioed ynghylch fy rhieni," meddai'r eneth. "Buasai'n dda gennyf petai hi heb ddod i Gymru o gwbl."

Bu Sera Defis wrthi hi ei gorau glas am tua dwyawr yn ceisio argyhoeddi Alina y dylai fod yn falch a diolchgar am gael cwrdd â'i mam. Dynes hardd a hoffus yr olwg. Credai mai llaw "Tad yr amddifad" oedd o'r tu ôl i hyn oll.

Ofer fu'r holl gocsio ar ran Sera Defis y noson honno. Ni fedrai'r eneth ei chael ei hun i werthfawrogi dim ar y tro newydd a sydyn hwn a ddaeth i'w bywyd. Ni fedrai hoffi'r ddynes-na'.

"Pam, mewn difrif calon?" ymbiliai Sera Defis. "Wn i ddim," oedd yr ateb cwta a roes ben ar bob cwestiwn y noson honno.

*****

Penderfynodd Alina wrth godi drannoeth mai doeth fyddai iddi ymddangos i olwg pawb ei bod yn