Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

falch o'r ddynes-na' a gafodd yn fam mor sydyn neithiwr. Sicrhaodd Sera Defis wrth y bwrdd brecwast ei bod wedi meddwl cryn dipyn am y peth, ac mai ei dyletswydd bellach oedd gwneud ei gorau o'r cyfnewidiad hwn yn ei bywyd, a cheisio ymddwyn at y ddynes-na' fel y buasai Anti Lora yn hoffi iddi wneud. "Y chwi sy'n iawn, Mrs Defis. Dylwn fod yn falch a diolchgar-efallai," meddai hi wedyn yn fyfyriol.

Yr oedd y si ar led drwy'r ardal cyn pen dim o amser fod mam Alina wedi dod o Lundain fel un o'r noddedigion preifat. Edrychid arni fel dynes o foddion gan bawb; a synnai Mrs Owen, Rock View, na buasai wedi mynd i aros i brif westy'r dref; hynny ydyw, os oedd moddion ganddi. "'Does wybod beth yw hi, wedi'r cwbl," ebe un o drigolion Stryd yr Haul.

Codwyd rhyw chwilfrydedd heb ei fath ar hyd a lled cylch arbennig o'r Hendre Gaerog. Yn wir, cerddodd y stori anghyffredin fel tân gwyllt cyn belled â thair a phedair milltir: "Glywsoch chi am y ddynes-na a ddaeth o Lundain? Mae hi'n lletya yn Stryd yr Haul; ac yn rhyfedd iawn, mae hi wedi dod o hyd i'w geneth ddwy ar hugain oed-un yr oedd hi wedi ei cholli pan nad oedd hi ond babi deufis oed."

Stori arall ydoedd mai plentyn siawns oedd yr eneth, ac mai actres oedd ei mam, a rhyw dywysog neu'i gilydd oedd y tad. Dywedai un arall mai'r