orffwys ynddi. Yr oedd wedi blino'n enbyd, meddai hi.
Galwodd am chwisgi iddi ei hun, a chrefai ar Alina gymryd yr un peth: gwnai ddaioni iddi.
Mi gymeraf ddiod soda i gadw cwmni i chwi," meddai'r eneth braidd yn swil. Chwarddodd y fam yn iach: "Peidiwch â bod mor ffôl â lluchio arian ar beth mor ddof â dŵr a soda!" ebr hi. Yna ordrodd chwisgi iddi ei hun a gwin i Alina. Taerai y gwnai'r gwin ddaioni mawr i'r eneth. Dywedai y dylai gael rhywbeth amgenach i'w yfed na the byth a hefyd. Yr oeddynt yn yfed gormod o de yng Nghymru.
Dechreuodd lowcio'r licer heb dropyn o ddŵr arno—yn amrwd. Wedyn, er mwyn bod yn berffaith gyfforddus, rhaid oedd tynnu sigaren o'i blwch arian, a'i thanio. Braf oedd y mwg yn gymysg â blas y ddiod. Am nad oedd Alina wedi dechrau smocio, dywedai ei bod yn hen ferch gysetlyd—run fath â'r hen ferch a'i magodd. Chwarddodd wedyn.
Nid oedd blas gwin yn beth dieithr i Alina. Cafodd botelaid o win fwy nag unwaith fel ffisig i'w hatgyfnerthu ar ôl ambell bwl o stempar fel y ffliw, er enghraifft. Cofiai'n dda am y gwin ysgawen a gadwai Anti Lora yn y tŷ fel ffisig at yr annwyd. Cyffur gwlad yr hen bobol ers talwm oedd hwnnw.
O'r hen gartref yn y wlad y cawsai Anti Lora ei gwin ysgawen at bob gaeaf. Ac fel y sipiai Alina win prif westy'r Gelli am y tro cyntaf erioed, teimlai nad