Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd fawr o wahaniaeth ym mlas y ddau win. Ond yn boeth y cawsai hi y gwin 'sgawen i'w yfed bob amser. Wedyn, byddai'r hen Anti yn lapio'r plancedi cynnes drosti nés ei gyrru i gysgu ac i chwysu'r annwyd allan.

Yr oedd gwin y dafarn yn debycach i'r gwin a brynasai gynt mewn siop. Yr oedd ei effaith yn treiddio i lawr yn rhyfedd, hyd yn oed drwy fonau ei breichiau, gan greu rhyw deimlad lled-ddiffrwyth ynddynt.

Yn ddistaw bach, nid diod gadarn a ddisgwyliai gael wrth droi i mewn i'r gwesty. Am gwpaned o de y sychedai hi. Yr oedd hi'n hanner awr wedi pump, a'r cerdded wedi codi eisiau bwyd arni.

Gwrthododd gymryd dim rhagor o ddiod, a phan oedd y fam yn gwagio'r diferyn olaf o'i gwydryn ei hun gan feddwl cael un arall cyn cychwyn allan, daeth dwy o wragedd canol oed i mewn, a milwr mewn gwisg swyddog i'w canlyn. Aeth yn sgwrs rhag blaen. Pobl wedi dod o Lundain oeddynt hwythau. Galwodd y milwr golygus am ddiod i bump. Dewiswyd cwrw. Yr oedd Alina ar ei thraed yn barod i gychwyn allan, a gwnaeth esgusawd bod ganddi gyhoeddiad gyda'i ffrind, Agnes, am saith o'r gloch. 'Roedd y bws ar y lawnt o'r tu allan yn barod i gychwyn, a rhedodd ati pan welodd fod y fam yn lingro yn y dafarn.

Teimlai yn anghyfforddus iawn, a chochodd ei hwyneb yn fflam welodd fod llond bws o lygad-