Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

au yn syllu arni yn dod allan o'r dafarn. Credai fod pawb yn clywed oglau diod arni tra safai yn y canol gan gydio yn y ddolen ledr uwch ei phen ar hyd y daith tuag adref. Cysidrodd pan oedd hi'n rhy hwyr y buasai'n well iddi fod wedi cerdded na thalu am sefyll, a hynny yng ngwynt tyrfa mor glos i'w gilydd.

Pam yr oedd yn rhaid iddi wneud popeth mor chwithig wrth geisio dandlwn y ddynes-na? A pham yr oedd yn rhaid iddi hi ei dandlwn? Yr oedd popeth yn mynnu chwarae yn ei herbyn a'i gwneud yn bric pwdin. Daliai ei grudd i losgi fel tân.

*****

Gan fod Mrs West, o dipyn i beth, wedi cael llu o ryw bobl o'r un chwaeth â hi ei hun i wneud cyfeillion ohonynt, cafodd Alina lai o'i chwmni a mwy o lonydd i fyw ei bywyd ei hun yn ei ffordd ei hun. Gwyddai amcan erbyn hyn sut gymeriad oedd y ddynes-na.' Nid rhyfedd iddi fethu a'i galw'n fam. Pe medrai, rhoesai'r byd yn gyfan am gael y fraint o fedru dweud nad oedd hi'n perthyn yr un dafn o waed iddi.

Er nad oedd neb, hyd yn oed Leusa Huws, yn barod i ladd arni yn ei gŵydd—ofn brifo teimlad y ferch, fel petai—gwyddai'n burion fod y ddynes na' yn destun siarad ardal gyfan, a bod Leusa Huws yn siwr o fod yn cael clywed y cwbl. Ac felly'r oedd