hi. Ond un driw i'r carn oedd y gymydog hon i'w ffrindiau, ac yr oed Alina yn un o'r ychydig ffefryniaid.
Fel y digwyddai, yr oedd Leusa Huws yn reddfol yn erbyn merched o deip Mrs Owen, Rock View, a Mrs Preis-gweddw oedd yr olaf. "Merched yn eu gosod eu hunain ac yn disgwyl i bawb feddwl eu bod nhw yn rhywun uwchlaw'r cyffredin, a hwytha'n neb!" oedd ei barn hi amdanynt. Yn naturiol, cymerodd yn erbyn Mrs West o'r dechrau. Byddai â'i llinyn mesur arni beunydd, a medrodd ymhen hir a hwyr argyhoeddi Sera Defis mai hen sopan ddiffaith oedd hi. Ni byddai byth yn sôn amdani ond wrth yr enw Faciwi".
Meddai hi un tro; "Mi welais i y Faciwi efo Mrs Preis heddiw eto; ac efo pwy ddyliech chi yr oeddynt yn siarad? Efo neb llai na gŵr Rock View. Mi fydd yna goblyn o helynt cyn hir os daw Mrs Owen i weld ffordd y mae'r gwynt yn chwythu. Yr oedd y tri â glasaid bob un o'u blaen ym mharlwr potio Glyn Dŵr y noson o'r blaen, medde Dafydd Wil!"
Fel yna y byddai rhediad y siarad rhyw ben o bob dydd dros wal y cefn, os byddai'r tywydd yn caniatau, neu wrth y tân yn nhŷ Sera Defis os byddai'n bwrw glaw.
Pryderai yr olaf gryn dipyn mwy nag a ddangosai i neb. Yr oedd Alina yn agos at ei chalon, a gwyddai o'r gorau fod eneth yn poeni ynddi ei hun, er iddi