geisio cuddio hynny rhagddi hi, a rhag pawb arall, o ran hynny.
Dywedai Leusa Huws fod dyfodiad y Faciwi i Stryd yr Haul wedi gyrru hanes y rhyfel i'r cysgod yn lân; ac felly 'r oedd. Anaml y daethai'r ddwy gymydog at ei gilydd i drin a thrafod y rhyfel y dyddiau hyn. Y cwestiwn arall a oedd yn flaenaf un yn eu meddwl, a chafodd y ddwy gryn fraw un gyda'r nos pan ddaeth Alina i'r tŷ oddi wrth ei gwaith a dweud wrthynt ei bod hi'n mynd i ffwrdd efo'r tren cyntaf bore drannoeth. Yr oedd hi wedi penderfynu mynd i wneud rhyw waith neu'i gilydd—beth bynnag a gâi ynglŷn â'r fyddin. Yr oedd hi'n ddwy-ar-hugain mlwydd oed, a diamau y byddent yn galw genethod o'r un oed â hi cyn hir, ac nid oedd waeth iddi fynd cyn cael ei galw i fyny.
I Lundain yr oedd am fynd. Yr oedd ganddi gyfeiriad rhyw lety Cymreig yno, a dorasai allan o bapur newydd.
Ofer fu'r holl ymbil ar ran y ddwy wraig, am iddi gymryd pwyll, ac aros am dipyn eto nes cael gweld sut y trôi pethau, cyn mentro o'i phen a'i phastwn ei hun i'r fath le â Llundain, lle'r oedd y bomio mor ofnadwy. Tybed na fedrai hi ddim cael lle gyda gwaith y rhyfel yn rhywle'n nes adref?
I Lundain yr oedd hi'n mynd, ac yn ddiymdroi aeth ati i hel yr ychydig angenrheidiau at ei gilydd. "Dof yn ôl i'ch gweld chi eto, Mrs Defis," meddai, "pan orffenno'r rhyfel. Yr hyn a hoffwn ichwi ei