Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wneud ydyw cadw'r cwbl o'r hyn a berthyn i mi hyd hynny; a pheidio â rhoi fy nghyfeiriad i'r ddynes-na. Un peth arall, os daw hi atoch i fenthyca arian, peidiwch â'i thrystio. Nid yw wedi talu'r ddwy bunt a gafodd yn fenthyg gen i. Os cofiwch, cafodd eu benthyg am fod ei harian hi heb gyrraedd ar ei hôl. Rhaid bod ei harian wedi cyrraedd ymhell cyn hyn, ond nid yw wedi sôn am dalu ei dyled imi. Na hidiwch, a waeth heb i neb arall gael gwybod hynyna. 'Rydw i'n eich trystio chi'ch dwy."

Chaiff neb wybod gen i, 'y ngeneth fach i! Beth gaf i ei wneud ichi, deudwch cyn ichi gychwyn? Oes gynnoch chi ddigon o arian yn ych poced i fynd cyn belled?" meddai Leusa Huws.

Oes yn enw'r dyn! Wiw inni fynd â gormod yn ein poced, medde nhw."

Gwelodd Sera Defis toc fod lle i'r Beibl a'r llyfr emynau yn y pac. Daliasai hwy yn ei llaw érs meityn yn disgwyl am gyfle i'w taro i mewn. · Bydd gennych eisiau y rhain lle bynnag yr ewch," ebr hi. Yr oedd wedi gweld yn y papurau fod y Cymry yn hel at ei gilydd, lle bynnag yr oeddynt, i ganu'r hen emynau Cymraeg, yn enwedig yn y gwledydd pell dros y dŵr.

Tipyn yn gymysglyd eu teimladau oedd y ddwy wraig, a synnent at Alina o'i gweld mor hunanfeddiannol.

"Yn wir-ionedd-i, mae eich penderfyniad sydyn