Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi 'ngneud i deimlo mor ddiffrwyth â bretyn," ebe Leusa Huws.

Yr oedd Sera Defis hithau yn crynu drosti, ac yn dda i ddim, meddai hi. Chwarddodd Alina fel petai'r cwbl yn hwyl o'r mwyaf a gafodd erioed.

Yr hyn a redai drwy feddwl Leusa Huws ydoedd bod y Faciwi na wedi dianc o Lundain rhag bomiau Hitler, a bod Alina hithau yn dewis rhedeg . i ddannedd tân rhyfel yn hytrach na byw yn hwy yng ngolwg ei mam.

*****

Yn bur gynnar drannoeth, cafodd Alina ei hun eistedd ar fainc platfform oer mewn gorsaf, filltiroedd lawer o'r Hendre Gaerog. Cawsai gerbyd iddi ei hun ar y daith cyn belled â hyn, am, mae'n debyg, iddi fynd cyn agosed i'r peiriant ag y medrai. Felly, cafodd lonydd i feddwl cryn lawer am yr hen dref annwyl na fedrai mwyach ei galw'n gartref iddi hi, ag eithrio mewn atgof. Yr oedd hi'n ffarwelio â Hendre Gaerog.

Yr oedd ganddi dros awr o amser i aros y tren i'w chludo i Lundain; ac i ladd amser aeth drwy ryw fanion o bapurau a wthiodd i'w bag-llaw yn ei phrysurdeb wrth gychwyn. Yn eu mysg yr oedd hen lythyr oddi wrth Derwyn—un o'i rai cyntaf ati yn ei gwadd allan am dro:

Annwyl Alina—Yn hytrach na mynd i'r pict-