Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y tren a'i cludai ymhellach i ddiogelwch. Ffoi am eu bywyd i Gymru yr oeddynt hwy.

Yn union deg, daeth tawelwch eilwaith, a gwelodd fod y llythyr yn yr un man heb ei gyffwrdd gan law na throed. Dechreuodd ddarllen ei phapur newydd; a thoc deallai bod rhywun yn gwyro i godi'r llythyr-un o weithwyr yr orsaf, dyn canol oed. Darllenodd ef yn hamddenol dan symud yn ei flaen. Daeth rhyw lefnyn ifanc tua dwy ar bymtheg oed heibio iddo o stôl y papur newydd. Sbïodd yn chwareus dros ysgwydd y dyn i weld beth a ddarllenai.

"Diaist i, un da ydi hwn!" ebr y dyn dan chwerthin.

Beth ydi o?" ebr y llall.

"Llythyr caru, fachgen! Rhywun wedi ei golli. Fedri di ei ddarllen o? Chei di mono i dy law. Mi 'rydw i'n mynd i gadw hwn. 'Does 'ma enw neb wrtho. Mi ddaw i mewn yn handi i mi am dipyn o hwyl efo'r hogan acw pan fydd hi'n cadw sŵn eisiau mynd i'r pictiwrs y tro nesaf."

"Caf ei weld eto," ebr y llanc, gan ddatgan, efallai y dôi i mewn yn handi iddo yntau hefyd, os câi ci gopïo ganddo rywbryd; ac aeth yn ei flaen ar frys gwyllt, gan adael y porter yn plygu'r llythyr ac yn ei gadw'n ofalus ym mhoced ei wasgod. Troes ac aeth i gwrdd â'r tren a oedd yn cyrraedd i'r golwg.

Erbyn hyn, yr oedd llawer heblaw Alina yn dis-