gwyl am y tren hwn, a chafodd hithau ei hun yn ebrwydd mewn cerbyd gorlawn o bobl ddieithr. Ymhen ychydig, trawodd y syniad i'w meddwl mai rhywbeth hyfryd iawn, am dipyn o newid, ydyw bod mewn tyrfa o bobl nad oedd yno neb yn ei hadnabod hi, na hithau yn adnabod neb ohonynt hwy.
Bu'n lwcus o gael eistedd wrth y ffenestr, a chafodd gyfle felly i edrych ar y tai a'r tiroedd, a glannau'r môr. Llwyd oedd lliw'r môr y bore hwnnw. Ond cofiai hi'n dda am ei lesni tawel ar ddyddiau haf heulog, ac am yr oriau difyr a dreuliodd yn ymdrochi yn chwareus gyda'i ffrindiau ifainc gynt ar ambell drip Ysgol Sul. Sylwai heddiw ar dai a thai yn glystyrau o bob llun a lliw yn wynebu'r môr. Lle delfrydol i fyw, yn ôl ei meddwl hi. Yr oedd rhyw bobl yn byw yn y tai hyn i gyd, a phob tŷ yn gartref. i rywun.
Dyna fel yr ymsyniai wrth fynd, â'i chefn ar Gymru. Yn fuan cyrhaeddodd orsaf Caer. Rhaid oedd newid yno. Cafodd wybod y câi y tren nesaf i fynd â hi i ben y daith heb newid; ac i goroni'r cwbl, yr oedd ei thren yno'n sefyll yn barod. Tarodd ar le cyfforddus eto wrth y ffenestr. Rhoes ei phen allan i edrych o gwmpas. Teimlai ddiddordeb byw yn y tyrfaoedd a wibiai drwy'i gilydd yn ôl a blaen.
Ar y platfform gyferbyn, yr oedd tren arall yn paratoi i fynd am Gymru, a gwelai nifer o filwyr yn rhedeg tuag ati. Digwyddodd i un ohonynt daflu rhyw gipolwg arni hi wrth fynd heibio. Gwelodd