Alina mai Derwyn oedd hwnnw. Eisteddodd yn ei chongl o'r golwg yn swat; ond daliai, er hyn, i gadw ei llygad ar y cerbyd yr aeth Derwyn iddo.
Dyna yntau ei ben allan ac yn syllu i'w chyfeiriad fel pe'n chwilio amdani. Mor hawdd y gallasai hithau roi ei phen allan unwaith eto, a chodi ei llaw arno. Ond nis gwnaeth.
Symudodd y tren a gludai Derwyn i Gymry a'r Hendre Gaerog yn esmwyth o'r golwg. Symudodd ei thren hithau yn araf i gyfeiriad arall; a chafodd yr eneth y teimlad rhyfeddaf a fu erioed, am eiliad. Fe'i cafodd ei hun fel petai mewn cwch ar ei phen ei hun, a hwnnw'n llithro â hi'n araf-esmwyth yn wysg ei chefn tua'r eigion. Hithau heb na rhwyf nac angor yn estyn ei breichiau i gyfeiriad y lan a adawodd.
Profiad hynod iddi hi ydoedd hynyną. Ychydig a feddyliai ei chyd-deithwyr fod dim allan o'r cyffredin yn ymwneud â'i meddwl.
Sut bynnag, yr oedd yn ddigon gwrol i ymysgwyd o ystad freuddwydiol o'r fath. Onid oedd byd newydd, llydan a di-ben-draw o'i blaen hi fel i gannoedd lawer eraill o'r un oed â hi? Yr oedd ganddi iechyd yn ei chorff cryf-un o fendithion pennaf bywyd. Daeth chwant bwyd arni, a chofiodd yn sydyn am y brechdanau â spam" rhyngddynt a roesai Sera Defis yn ei bag-llaw.
Oedd, yr oedd bywyd llawn o ddiddordeb newydd yn agor o'i blaen. Yr oedd ei dyhead am