gael byw yn cryfhau fwyfwy fel yr âi'r tren ymlaen ar y daith. Yr oedd bywyd yn felys drwy bopeth; a'i gweddi daer ydoedd na fyddai'n rhaid iddi gwrdd â'r ddynes-na' byth eto.
Yr oedd yn wirionedd rhy ryfedd iddi hi fedru ei sylweddoli'n iawn, ond i ryw raddau annelwig, sef bod y ddynes-na' wedi dod ó Lundain i ddinistrio rhai pethau gwerthfawr ac annwyl yn ei bywyd hi ei hun. Yn ei dyfodiad, chwalwyd llawer castell a gododd yn ei meddwl dan awyr iach yr Hendre Gaerog, yn gandryll i'r llawr.
Ofer fyddai iddi hi feddwl am aros mwy lle'r oedd ei chestyll yn deilchion. Ni fedrai hi byth godi yn eu holau y rheini a chwalwyd.
Yn un peth, byddai barn y cyhoedd yn dal yn gyndyn-drwm wrth ei godre drwy'r blynyddoedd i ddod. Petai'n priodi a hel a magu plant, byddai'r stremp yn yr Hendre Gaerog yn glynu wrth y rheini o genhedlaeth i genhedlaeth.
Nid oedd hynyna, wedi'r cwbl, yn ddigon o lanastr i'w rhwystro hi i godi cestyll o'r newydd. Yr oedd byd a bywyd newydd yn disgwyl wrthi yn rhywle draw. Lled-gredai mai ym mherfedd Lloegr, sef yn un o'i dinasoedd, yr oedd ei gobaith am heddwch
pan setlai i lawr ar ôl y rhyfel. Wiw mynd i'r un o bentrefi Lloegr. Nid oedd eu pobl hwythau ronyn gwell na phobl pentrefi Cymru am holi a stilio i mewn i hanes pobl a fentrai i fyw i'w plith. Buasai'n rhaid iddi ddweud cannoedd o gelwyddau,