Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HYWEL A BLODWEN

Yn ôl ei arfer ers llawer blwyddyn bellach, rhoes Hywel Williams holl bwys ei gorff blin i orffwys yn gyfforddus yn ei gadair freichiau galed, yn barod am gyntun. Ond yn gyntaf rhaid oedd cael tân ar y cetyn. Yr oedd mygyn yn hanfodol bwysig ar gyfer yr awr dawel honno a oedd iddo ef yn llawer gwell na gwin ar ôl ei ginio wedi dychwelyd o'r chwarel bob min nos.

Wedi cael tân ar y cetyn, cydiodd yn y papur newydd a oedd ar y stôl haearn yn ei ymyl. Gallasech feddwl ar ei osgo o gydio yn y papur ei fod yn effro iawn, ac yn awchus am weld beth oedd gan y papur Saesneg hwnnw i'w ddweud am helynt y byd. Ond, yn ddistaw bach, yr oedd gan y papur yntau ran go braf yn yr hwylio am y cyntun.

Cyn pen dim amser wedi iddo ddechrau darllen,. yr oedd yr amrannau am gau er ei waethaf, gan guddio glesni'r llygaid mawr a gadael rhyw rimyn gwyn atgas yn y golwg. Newyddion y dydd neu beidio, rhy galed ydoedd y brwydro i gadw'r llygaid yn agored, a'r peth nesaf oedd taro'r' cetyn ar y bwrdd wrth ei ochr. Llithrodd y papur ohono'i hun i'r llawr rhwng y stôl haearn a'r gadair. Plethodd