Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yntau ei ddwylo, ac fe aeth ei ên fesul dipyn i bwyso ar fin ei frest. A pheidiodd y pendwmpian.

Ac yn ôl ei arfer yntau, dyma Teigar, y gath frech, yn dod o'r cefn dan lyfu ei weflau ar ôl sbarion y cinio. Saif o flaen y tân i ymolchi tipyn o gwmpas ei geg; ac wedi rhoi rhyw lyfiad ecstra ar ei bawen gan feddwl dal ymlaen i olchi o gwmpas y clustiau a'r corun-yn sydyn, â'i bawen i fyny, teifl ei olwg i gyfeiriad y sawl sy'n cael hepian yn y gadair. Yr un mor sydyn rhydd naid ar y glin llychlyd, a dechrau pobi yn foddhaus. Wedi pobi digon, yn ôl ei feddwl o, gorweddodd yn ei gynefin mor esmwyth â phetai ar wely plu.

Yn y cyfamser, yr oedd y bwrdd wedi ei glirio, a'r llestri wedi eu golchi a'u cadw. Sieflaid o lo wedi ei thaflu ar y tân gan Flodwen, a'r brws bychan a gedwid dan y ffender wedi ei ddefnyddio ganddi i hel llwch oddi ar y pentanau am y filfed tro-mewn ffordd o siarad.

Wedi golchi ei dwylo unwaith yn rhagor, daeth hithau ac eisteddodd i lawr yn ei chadair gyferbyn â'i gŵr. Aeth ymlaen i weu'r hosan a oedd ganddi ar y gweill, a dechreuodd ymsynio y byddai Idwal, y mab, yn cael ei ben blwydd yn Itali ymhen rhyw ddeufis. Yr oedd hi'n ddiwedd Awst yn awr. Ond yr oedd un hosan wedi ei gorffen ganddi y dydd o'r blaen, a rhaid oedd ymorol am gael ei chymhares yn barod mewn pryd. Gresyn na chawsai'r hogyn ddod adref i fwynhau ei ben blwydd. Rhoes ei chalon