hwyl o gystadlu. Byddent yn "ennill er colli" ar adegau felly. A phan fyddent yn cynnal cyngherddau, aml y galwai rhywun o'r dyrfa am iddynt ganu'r hen ddeuawd adnabyddus "Hywel a Blodwen " o'r opera Gymraeg. Ufuddheid bob tro, a mawr fyddai'r clapio dwylo o du'r dyrfa, er mwynhad a difyrrwch iddynt hwythau eu dau.
Yn naturiol iawn, etifeddodd y mab y dalent gerddorol oddi wrth ei rieni; ond medrodd ef estyn ei linynnau ymhellach na hwy oherwydd iddo gael y fantais o ddysgu canu'r piano a'r organ-braint na chafodd ei rieni mohoni.
Llawer awr ddifyr a dreuliwyd ar yr aelwyd wedi i'r llanc ddyfod i feistroli cerddoriaeth yn ei hystyr lawnaf.
Daliodd y tad i ymddiddori mewn eisteddfod a chyngerdd ac i helpu'r corau nes cyrraedd dros ei hanner cant oed. Bu'n rhaid i'r fam roddi heibio'r pleser o redeg o gwmpas i gystadlu yn llawer cynharach oherwydd y gwendid iechyd a'i daliodd. Er hyn yr oedd canu yn rhan o'i bywyd o hyd. Ac nid yn ofer y rhoesant hwy'r enw Llys y Gân ar eu tý ar ddechrau eu bywyd priodasol. Yn sŵn cliciadau ysgafn y gweill, cofiai Blodwen fel y byddai hi'n gweu sanau, myfflars a menyg i Hywel pan oedd o yn Ffrainc ers talwm. A dyma hi heddiw yn gweu i'r mab-yntau yn ŵr ac yn dad i ddau o blant erbyn hyn, ac wedi gorfod cefnu ar ei aelwyd gyffyrddus a mynd i'r frwydr erchyll.