Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gofidiai na buasai ei deulu bach yn byw yn nes ati hi, er mwyn iddi gael gweld Ceridwen a'r plant yn amlach. Braidd yn rhy bell oedd y deuddeg milltir rhwng y ddau gartref.

Trawodd y cloc mawr chwech o'r gloch, a theimlid rhyw egrwch anarferol yn ei dinc oherwydd. distawrwydd y gegin. Ar y trawiad olaf ceisiodd Hywel ystwyrian o'r cwsg melys. A phan lwyddodd o'r diwedd i agor ei lygaid, a gorffwys ei ben yn ôl ar gefn y gadair, syllodd yn ddioglyd am sbel go dda ar ddwylo'r wraig yn gweu, à hynny heb ddweud na bw na be. A chlywid sŵn ei anadl yn dod drwy ei ffroenau-y sŵn hwnnw sy'n tueddu i godi eisiau cysgu ar eraill.

Edrychodd Blodwen arno. Ar hynny, aeth ei law dde yntau, yn ôl grym arferiad, am ei getyn; a phalfalai efo'i fys bach i weld a oedd digon o faco ynddo. Wedyn, ceisiodd ymestyn i gael gafael ar un o'r sbiliau papur a oedd ar y pentan. A chyda phob symudiad o'i eiddo, clywid y tuchan bach hwnnw a geir yn y gwddf pan fydd dyn yn codi crawen yn y chwarel, neu'n gwthio wagen neu rywbeth trwm arall. Peth arferol gan rai, o ran hynny, ydyw tuchan efo peth mor ysgafn ag ymolchi'r wyneb.

Sut bynnag, rhywbeth doniol, a dweud y lleiaf, ydyw'r tuchan bach yna yng ngwddf dyn. Ond efallai iddo fod o gryn help i Hywel yn ei ymdrech i oddadebru ac i gael gafael ar y sbilsen bapur; ac wedi cael honno, y contract nesaf oedd cael tân arni, a