rhaid oedd ymestyn ymhellach y tro hwn, a bustachu cryn dipyn wrth geisio cyrraedd y tân.
"Yn enw'r annwyl! Hel y gath 'na i lawr," ebr Blodwen.
Wedi edrych ar y gwrcath a chysidro uwch ei ben, "Wel, cer' i lawr, pws bach," ebr ef o'r diwedd, gan roi ryw hwth dyner iddo. Medrodd gael tân ar ei getyn yn weddol hylaw wedyn, ac ymestynnai Teigar ei gorff ystwyth i'w lawn hyd, ei led a'i uchder ar ganol y llawr, a'i ffwr, yn enwedig ei gynffon, yn ffluwchio'n hardd.
Wedyn aeth pws i gyfeiriad drws y cefn i ddangos fod arno eisiau mynd drwyddo. Eisteddodd yno'n dalog i ddisgwyl i rywun ei agor; a chan nad oedd neb yn sylwi ar ei ddisgwyliad, cododd ei bawen at y dwrn pres, a daliodd i rygnu hwnnw nes tynnu sylw Blodwen. Agorwyd y drws, ac aeth pws allan yn union fel petai o wedi digio wrthynt am dorri ar ei gwsg cyffyrddus.
Daliai'r gweill i wibio drwy ei gilydd yn nwylo'r wraig, a dyrchafai'r mwg i'w uchelfannau o getyn y gŵr. Syllai ef arni hi yn gweu, ac ar y mwg bob yn ail-a neb yn dweud dim.
"Tic-toc, tic-toc, tic-toc," meddai'r hen gloc wrth y distawrwydd.
"Oes gen ti ddim byd i'w ddweud bellach, dwad?" gofynnodd y wraig i'r gŵr.
"Wyddost di am be' 'ro'n i'n meddwl 'rŵan?"