Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DAN GWMWL

CYRHAEDDODD Alina i'r tŷ yn gynharach nag arfer. Yr oedd hi ar ganol llawr y gegin yn tynnu ei chôt oddi am dani dan fwmian canu, cyn i Sera Defis sylweddoli'n iawn ei bod yno.

"Hylo! Beth a'ch gyrrodd chi adre mor gynnar?"ebr hi gan ostwng ei phen i edrych dros ei sbectol.

"Ddois i'n rhy gynnar?

Naddo'n enw'r dyn. Ond wrth mai dydd Iau yw hi, 'doeddwn i ddim yn y'ch disgwyl am un awr arall o leiaf. Sut groeso a gawsoch yn Rock View y pnawn? 'Roedd yno steil garw, mi dyffeia i nhw !

Buasai'n llawer gwell imi fod wedi mynd am dro iawn i lawr ar hyd y cwm, neu fod wedi dringo i ben y mynydd a mynd â brechdan neu ddwy yn fy mhoced. Nid wyf wedi mwynhau fy hanner diwrnod heddiw o gwbl. Cawswn dipyn o iechyd i gorff a meddwl petawn wedi mynd i gerdded drwy'r awyr iach. Peth gwirion ydyw mynd i dai i de!" meddai Alina.

Gwelodd Sera Defis ar unwaith fod rhywbeth wedi troi'r drol efo Alina. Yr oedd pedair blynedd o fyw gyda'i gilydd wedi rhoi'r cyfle iddi fedru adnabod yr eneth yn weddol dda, hyd yn oed yn