unig oddi wrth ei hwyneb. Gwyddai pryd i dewi, ac aeth ymlaen â'r bydio o glytio hen wisg a wnai'r tro eto' i'w gwisgo yn y bore.
Ni fu gair croes rhyngddynt ar hyd y pedair blynedd, ac er bod Sera Defis dros ei deg a thrigain, nid oedd yn hen ei hysbryd o bell ffordd. Yr oedd ei llond o ryw afiaith ifanc. Llawer awr ddifyr a dreuliwyd ganddi hi ac Alina-y naill yn sôn am helynt caru'r gorffennol, a'r llall am helynt caru cariadau'r presennol. Cawsai'r eneth yr un pleser o siarad yn rhydd ac agored efo'i lletywraig ag a gawsai gyda'i ffrindiau ifainc. Teimlai ddiddordeb mawr ym mhroblemau ei ffrind oedrannus, ac yn ei barn am y byd a'i droeon. Mewn un ystyr, yr oedd Alina yn hŷn na'i hoed.
Ond y noson hon, nid oedd Alina mewn gormod brys i ddweud beth a'i gyrrodd oddi ar ei hechel; a phan oedd hi'n hongian ei chôt yn y cyntedd, dyna sgrech annaearol y seiren yn gyrru ei harswyd dros bopeth; ac fe'i hatgofiwyd bod rhyfel yn y byd a bod y gelyn ar ei ffordd drwy'r wybren.
"O, mam bach!" meddai'r hynaf, "gwell inni fynd i's sbens, deudwch?
"Na, fe 'steddwn ni'n dawel wrth y tân 'ma," meddai'r eneth.
"'Rois i'r bleind du na'n iawn ar y ffenest, deudwch?"
"Do, do! Peidiwch â phoeni."
Yr oedd Sera Defis wedi.cynhyrfu, a'i gwedd cyn