"Ond paid â chymyd y procar ato," meddai. "Rhaid iti gofio mai creadur direswm ydi o, ac mai 'i elfan o ydi hela adar a llygod. A pheth arall, wyddost di dy fod ti dy hun yn helpu cath i ddal adar?"
Cer' odd'na di i ddeud peth felna!"
Mae o'n ddigon gwir! 'Rydw i wedi sylwi arnat yn ysgwyd y llian allan o flaen y drws 'na; a thra mae'r adar yn dwad ar ôl y briwsion, mae un fel Teigar yn cael ei gyfla."
Sleifiodd pws tua'r cefn o'r twrw; a phan oedd y feistres efo'r procer ar ei ôl, rhywfodd medrodd sleifio'n ôl i'r gegin a chuddio dan y dreser heb i'r un o'r ddau weld i b'le 'r aeth.
Rhoes Blodwen y gorau i geisio achub yr aderyn. Gwyddai fod ei fywyd wedi mynd. Edrychodd allan a gwelodd fod cwmwl du, trwm uwchben, a'i ddafnau eisoes yn dechrau disgyn. A thra bu hi yn yr ardd yn hel dillad oddi ar y lein, daeth cnoc ar ddrws y ffrynt, a llais eu cymydog, Joseff Ifans, yn gofyn yn ôl ei arfer: "Oes 'ma bobol i mewn?"
"Tyd ymlaen, Jo," ebr Hywel, "tyd ymlaen a stedda."
Daeth yntau yn araf i'r gadair. gyferbyn yr ochr arall i'r tân, a phetai Hywel wedi sylwi, buasai'n gweld bod golwg nyrfus arno.
Wedi sôn am y tywydd a rhyw fymryn am y chwarel," Does 'na fawr o ddim newydd neilltuol am y rhyfel heddiw yn y papur 'ma," ebr gŵr y tŷ.