"Does 'na ddim llawar o gysur ffordd yn y byd i neb ohonom o gyfeiriad y rhyfel, weldi!" ebr y cymydog, gan ychwanegu yn ddistawach, "Lle mae hi?"
Blodwen wyt ti'n ei feddwl? Mae hi yn y cefn 'na. Mi ddaw i mewn yn y munud."
Wyddost di beth, Hywal bach, yr hen gyfaill, mae gen i negas boenus ofnad—— Methodd â gorffen y gair gan rywbeth a'i tagai.
Gwyrodd Hywel tuag ato o'i gadair: "Joseff! Oes gen ti ryw newydd drwg inni, dwad?"
Oes, yr hen gyfaill. Waeth imi ei dorri iti yn fuan nag yn hwyr. Mae 'nghalon i'n brifo'n enbyd. Wn i ddim sut y dwedwn ni wrthi hi!"
"Beth ydi'r newydd drwg, ac o b'le cest di o?" "Oddi wrth Ceridwen, ei wraig, neu rywun a sgrifennai drosti; ac yn gofyn imi dorri'r newydd trist i chi'ch dau."
"Y mae Idwal, fy mab, wedi ei ladd felly! Ydi o'n wir, Joseff?"
Rhyw edrych i lygad y tân a wnaeth y cymydog, ac ni fedrodd ateb gair.
Cododd Hywel, a cherddodd yn ôl a blaen ar hyd llawr y gegin fel un wedi ei syfrdanu i'r eithaf. Safodd ar ganol y llawr pan glywodd sŵn troed y wraig yn dod o'r cefn.
"Helo! Joseff Ifans," ebr hi.
Sylwodd ar unwaith fod golwg trist ar ei gŵr ag yntau.