DATGANIAD CYFFREDINOL O HAWLIAU DYNOL
Rhagair
Gan mai cydnabod urddas cynhenid a hawliau cydradd a phriod holl aelodau’r teulu dynol yw sylfaen rhyddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd, Gan i anwybyddu a dirmygu hawliau dynol arwain at weithredoedd barbaraidd a dreisiodd gydwybod dynolryw, a bod dyfodiad byd lle y gall pob unigolyn fwynhau rhyddid i siarad a chredu a rhyddid rhag ofn ac angau wedi ei gyhoeddi yn ddyhead uchaf y bobl gyffredin,
Gan fod yn rhaid amddiffyn hawliau dynol a rheolaeth cyfraith, os nad yw pob unigolyn dan orfod yn y pendraw i wrthryfela yn erbyn gormes a thrais,
Gan fod yn rhaid hyrwyddo cysylltiadau cyfeillgar rhwng Cenhedloedd,
Gan fod pobloedd y Cenhedloedd Unedig yn y Siarter wedi ail ddatgan ffydd mewn hawliau sylfaenol yr unigolyn, mewn urddas a gwerth y person dynol ac mewn hawliau cydradd gwŷr a gwragedd, ac wedi penderfynu hyrwyddo cynnydd cymdeithasol a safonau byw gwell mewn rhyddid helaethach,
Gan fod y Gwladwriaethau sy'n Aelodau wedi ymrwymo, mewn cydweithrediad â'r Cenhedloedd Unedig, i sicrhau hyrwyddo parch cyffredinol i hawliau dynol a'r rhyddfreintiau sylfaenol, a'u cadw,
Gan fod deall yr hawliau a'r rhyddfreintiau hyn gan bawb o'r pwys mwyaf i lwyr sylweddoli'r ymrwymiad hwn,
Felly, y mae'r
Cynulliad Cyffredinol
yn awr yn cyhoeddi'r
Datganiad Cyffredinol hwn o Hawliau Dynol
yn ddelfryd cyffredin i'r holl bobloedd a'r holl genhedloedd ymgyrraedd ato, fel y bo i bob person ac i bob offeryn cymdeithasol, gan ddal y Datganiad hwn mewn cof yn wastad, ymdrechu trwy ddysgu a hyfforddi i sicrhau parch i'r hawliau a'r rhyddfreintiau hyn, a thrwy ffyrdd blaengar, cenedlaethol a chydgenedlaethol, i