Tudalen:Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y CU.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sicrhau eu cydnabod a'u cadw yn gyffredinol ac yn effeithiol, ymysg pobloedd y Gwladwriaethau sy'n Aelodau eu hunain yn ogystal ag ymysg pobloedd y tiriogaethau sydd dan eu rheolaeth.

Erthygl 1

Genir pawb yn rhydd ac yn gydradd â'i gilydd mewn urddas a hawliau. Fe'u cynysgaeddir â rheswm a chydwybod, a dylai pawb ymddwyn y naill at y llall mewn ysbryd cymodlon.

Erthygl 2

Y mae gan bawb hawl i'r holl hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, geni neu safle arall.

Ymhellach, ni ddylid gwahaniaethu ar sail safle politicaidd, gyfreithiol na chydwladol unrhyw wlad neu diriogaeth y mae pawb yn perthyn iddi, p’un ai yw honno’n annibynnol, dan nawdd, heb hunanlywodraeth, neu dan unrhyw gyfyngiad arall ar ei sofraniaeth.

Erthygl 3

Y mae gan bawb hawl i fywyd, rhyddid a diogelwch.

Erthygl 4

Ni ddylid dal neb yn gaethwas nac mewn caethiwed; dylid gwahardd caethwasiaeth a'r fasnach gaethweision ym mhob un o’u hagweddau.

Erthygl 5

Ni ddylid poenydio neb, na thrin na chosbi neb yn greulon, annynol na’n ddiraddiol.