Tudalen:Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y CU.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Erthygl 6

Y mae gan bawb hawl i gael cydnabyddiaeth ym mhobman fel person yng ngydd y gyfraith.

Erthygl 7

Y mae pawb yn gydradd yng ngolwg y gyfraith gyda’r hawl yn ddiwahân i'r un amddiffyniad gan y gyfraith. Y mae gan bawb hawl i'r un amddiffyniad yn erbyn unrhyw wahaniaethu sy’n groes i’r datganiad hwn neu unrhyw anogaeth i wahaniaethu.

Erthygl 8

Y mae gan bawb hawl i ymwared effeithiol gan y llysoedd cenedlaethol cymwys rhag gweithredoedd sy’n troseddu'r hawliau sylfaenol a roddwyd iddynt gan y cyfansoddiad neu gan y gyfraith.

Erthygl 9

Ni ddylai neb gael eu dwyn i ddalfa, na'u caethiwo na'u halltudio yn fympwyol.

Erthygl 10

Y mae gan bawb hawl, mewn cydraddoldeb llawn, i gael gwrandawiad teg a chyhoeddus gan lys annibynnol a diduedd, wrth benderfynu eu hawliau a’u rhwymedigaethau ac unrhyw gyhuddiad troseddol yn eu herbyn.

Erthygl 11

Y mae gan bawb a gyhuddir o drosedd gosbadwy hawl i gael eu hystyried yn ddieuog tan y profir hwynt yn euog yn ôl y gyfraith mewn prawf cyhoeddus lle y byddant wedi cael pob gwarant angenrheidiol at eu hamddiffyniad. Ni ddylid dyfarnu neb yn euog o drosedd gosbadwy oherwydd unrhyw weithred neu wall nad oedd yn drosedd, yn ôl cyfraith genedlaethol neu ryngwladol, pan gyflawnwyd hi. Ni ddylid ychwaith osod cosb drymach na’r un a oedd yn gymwys ar yr adeg y cyflawnwyd y drosedd gosbadwy.