Tudalen:Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y CU.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae gan bawb mewn oed, yn wryw a benyw, heb unrhyw gyfyngiadau o ran hil, cenedligrwydd na chrefydd, hawl i briodi a sefydlu teulu. Y mae ganddynt hefyd hawliau cyfartal yngln â phriodas, yn ystod priodas ac wrth ei diddymu. Ni ddylid priodi ond o lwyr fodd y ddau sy'n golygu gwneud hynny. Y teulu yw uned naturiol a sylfaenol cymdeithas a chanddo’r hawl i amddiffyniad gan gymdeithas a’r Wladwriaeth.

Erthygl 17

Y mae gan bawb hawl i feddu eiddo unigol yn ogystal â chydag eraill. Ni ddylid amddifadu neb o'u heiddo yn fympwyol.

Erthygl 18

Y mae gan bawb hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd; fe gynnwys hyn ryddid iddynt newid eu crefydd neu eu cred, a rhyddid hefyd, naill ai ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, yn gyhoeddus neu'n breifat, i amlygu eu crefydd neu ei gred trwy addysgu, arddel, addoli a chadw defodau.

Erthygl 19

Y mae gan bawb ryddid barn a mynegiant; fe gynnwys hyn yr hawl i ryddid barn, heb ymyrraeth gan neb, a rhyddid i geisio, derbyn a chyfrannu gwybodaeth a syniadau trwy unrhyw gyfryngau, heb ystyried ffiniau gwlad.

Erthygl 20

Y mae gan bawb hawl i ryddid ymgynnull a chymdeithasu heddychlon. Ni ellir gorfodi neb i berthyn i unrhyw gymdeithas.

Erthygl 21